Mae blwyddyn 5 a 6 wedi cael profiad bythgofiadwy o fod yn ran o ‘Gynllun Hyrwyddwyr Ifanc, Noson Allan’, Cyngor Celfyddydau Cymru dan arweiniad Rhian Cadwaladr.
Disgyblion blwyddyn 5 a 6 wnaeth lwyddo i drefnu a chynnal y noson. Roedd pob unigolyn wedi cael dyletswyddau gwahanol i’w gwneud ar noson y sioe gan gynnwys bod yn gyfrifol am y ticedi, y raffl, y croesawu a’r diolchiadau a thywys pobl i’w seddi. Cynhaliwyd y sioe bypedau ‘Storm in a Tea Cup’ gan gwmni Horse and Bamboo yn yr ysgol ar nos Fawrth, y 5ed o Orffennaf.
Noson lwyddiannus iawn a braf oedd gweld gymaint o rieni a phlant iau wir yn mwynhau y perfformiad!
Sioe “Storm in a Teacup”