Croeso i Ysgol Crud Y Werin

Llechen crud y werin

Ein gobaith yn Ysgol Crud Y Werin yw y bydd y plant yn datblygu rhinweddau personol a sgiliau addysgol a fydd o gymorth iddynt ar eu taith trwy’r byd. Trwy ddatblygu ethos gartrefol, llawn cymhelliant ac ysgogol – dymunwn i’r plant ffynu mewn hyder – fydd yn eu galluogi i fod ag agwedd gadarnhaol tuag at roi cynnig arni a pheidio ag ofni methu. Anelwn yn uchel tuag at arfogi’r disgyblion trwy feithrin a datblygu eu creadigedd, sgiliau, hyder a’u gallu i ‘feddwl’ – meddwl tu allan i’r bocs a derbyn her mentergarwch. Annogwn hwy i leisio eu meddyliau a mawr obeithiwn mai canlyniad hyn fydd disgyblion sydd wedi eu harfogi’n gyfoethog ar gyfer wynebu’r dyfodol a byd gwaith.