Cawsom gyngerdd Nadolig GWYCH unwaith eto eleni! Roedd pawb wedi bod yn brysur iawn yn ymarfer ers wythnosau! Roedd y disgyblion Meithrin werth i’w gweld yn canu eu caneuon ar ddechrau’r cyngerdd! Roedd gan ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen ychydig bach o broblem, pwy oedd wedi torri’r Cloc Hud? Diolch i PC Dai a PC Dei am eu help drwy gydol y sioe, cawsom ymweliad gan lawer o gymeriadau!
Yng Nghyfnod Allweddol 2 cawsom fynd a’r daith i rai gwledydd yn y byd gyda Barti Ddu i weld sut roedd diwylliannau gwahanol yn dathlu’r Nadolig! Cawsom help gyda’r Glob sy’n troelli i ddewis y gwledydd amrywiol!
Rwy’n siwr fod pawb wedi mwynhau’r cyngerdd ag wedi mynd i ysbryd yr wyl!
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!
Cyngerdd Nadolig