Antur Waunfawr

Rydym fel ysgol yn cyd-weithio gydag Antur Waunfawr i ailgylchu dillad er mwyn cael arian i’r ysgol i brynu adnoddau garddio newydd yn bennaf, a chefnogi menter lleol yr un pryd! Mae Antur Waunfawr wedi ei leoli yn Cibyn yng  Nghaernarfon, maent yn ailgylchu dillad oedolion a phlant, esgidiau a bagiau, llenni a thecstiliau. Hoffwn ni fel disgyblion Blwyddyn 6 ddiolch yn fawr iawn i’r holl rieni a phobl y gymuned am gefnogi yr ysgol drwy roi dillad i’r ysgol. Mae’r biniau yn llenwi’n aml iawn! Rydym yn hynod o falch o’ch cefnogaeth drwy ailgylchu’n lleol!

Mae Cadeirydd (Emrys Evans) ac Is-Gadeiryddes (Awen Roberts) y Cyngor Ysgol Werdd yn brysur iawn yn cadw golwg ar y biniau glas a threfnu’n uniongyrchol gyda’r Warws Werdd yn Antur Waunfawr i ddod i’w casglu.  Gan fod y biniau mor boblogaidd, mae Emrys ac Awen wedi ymholi a threfnu i’r ysgol dderbyn banc dillad, yn hytrach na’r tri bin sydd eisioes ar dir yr ysgol, yn y dyddiau nesaf!  Gobeithio y byddwn yn llwyddo i’w lenwi cystal a’r biniau!

Diolch unwaith eto am eich cefnogaeth!

 

Antur Waunfawr