Cafwyd noson llawn hwyl a sbri yn cymryd rhan mewn gemau amrywiol, peintio gwynebau, prynu cynnyrch Nadolig a chymdeithasu! Roedd y plant wedi bod yn brysur yn gwneud crefftau i’w gwerthu! Yn wir roedd neuadd yr ysgol yn orlawn! Cawsom ymweliad pwysig iawn gan Sion Corn! Llwyddwyd i gasglu llawer o arian tuag at yr ysgol! Diolch yn fawr iawn i chi am ein cefnogi!
Ffair Nadolig y Gymdeithas Rieni