Llongyfarchiadau Skye
Llwyddodd Skye, Blwyddyn 5 i ddod yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Gymnasteg Ysgolion Eryri yng Nghaernarfon drwy gasglu’r nifer fwyaf o bwyntiau allan o bron i 150 o ddisgyblion! Anhygoel!! Gwych, Skye!

Ar ddiwrnod Plant mewn Angen eleni, cawsom gyfle i wisgo dillad ein hunain, pyjamas neu ddillad lliwgar i’r ysgol a thalu £1 am gael gwneud. Roeddem wrth ein boddau yn cael gwisgo dillad gwahanol i’r wisg ysgol! Casglwyd £80 i’r elusen.
Ar ddydd Gwener, yr 11eg o Dachwedd, aeth disgyblion blwyddyn pump a chwech i Eglwys Sant Hywyn er mwyn cymryd rhan yn y Gwasaneth Cofio. Bore teimladwy iawn yn y gwasanaeth.